Cyfarwyddwyr a Rheolaeth
Cyfarwyddwyr y Bwrdd
- Richard Huntingford, Cadeirydd Anweithredol
- Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr
- Mark Fenwick, Cyfarwyddwr Cyllid
- Gareth Rees, Cyfarwyddwr Gweithredol
- Roger Moore, Cyfawryddwr Anweithredol
- Linda James, Cyfarwyddwr Anweithredol
Richard Huntingford - Cadeirydd Anweithredol
Roedd Richard, 52, yn Brif Weithredwr Grwp Chrysalis plc o fis Rhagfyr 2000 tan Mis Medi2007, wedi ymuno â’r Grwp fel Cyfarwyddwr Datblygiad Corfforaethol yn Mehefin 1987. Yn Chrysalis roedd yn gyfrifol am adeiladu’r cwmni i Grwp Cyfryngol gyda seiliau cadarn yn meysydd radio, teledu a cherddoriaeth. Yn ystod ei gyfnod ef daeth Chrysalis Television yn gynhyrchydd blaengar o ddrama, adloniant, rhaglenni ffeithiol a chwaraeon gyda rhaglenni fel Midsomer Murders, Richard and Judy, Top Ten, F1 a Football Italia, cyn ei werthu i All3Media yn Awst 2003. Sefydlodd Richard Chrysalis Radio yn 1993 a llwyddo i ddatblygu Grwp gyda rhai o’r brandiau radio mwyaf llwyddiannus fel Heart, Galaxy ac LBC cyn gwerthu am £170 miliwn i Global Radio yn Gorffennaf2007. O Fedi 2007 roedd Richard yn Gadeirydd Gweithredol Virgin Radio tan ei gaffaeliad gan Times of India yn Mehefin2008. Enillodd Richard ei gymwysterau fel Cyfrifydd Siartredig gyda KPMG ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad ar lefel byrddau PLC yn y diwydiannau cyfryngol.
Huw Eurig Davies - Prif Weithredwr
Sefydlodd Huw Eurig Davies Boomerang yn 1994. Cyn hynny, roedd Huw yn gweithio mewn Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, yn cael profiad yn y sector gyhoeddus a'r sector breifat. Treuliodd ddwy flynedd o 1988 yn adran Cysylltiadau Cyhoeddus S4C lle cafodd ei ddyrchafu yn Ddirprwy Bennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus. Aeth ymlaen oddi yno i'r Asiantaeth Ddatblygu Gymreig fel Rheolwr Mentrau Marchnata cyn gadael i fod yn rheolwr marchnata Best Display Group Limited. Daeth ei brofiad cyntaf o cynhyrchu teledu gyda chytundeb chwe mis gyda HTV Cymru yn 1993. Dilynwyd hyn gyda sefydlu Boomerang a bu'n arwain y cwmni ers hynny. Yn 1996 etholwyd Huw i Gyngor TAC ac fe'i hetholwyd yn Gadeirydd yn 2002, swydd y bu'n gwasanaethu ynddi am ddau dymor tan 2006. Yn 2005, etholwyd Huw i gynrychioli aelodau PACT yng Nghymru fel cynrychiolydd Cenedlaethol Cymru ar Gyngor Pact. Graddiodd Huw o Brifysgol Caerdydd yn 1987.
Mark Fenwick - Cyfarwyddwr Cyllid
Ymunodd Mark â'r Grŵp a'r Bwrdd yn mis Hydref 2004. Cyn ymuno â'r Grŵp, cyflogwyd Mark gan Deloitte and Touche LLP yng Nghaerdydd am 18 mlynedd. Roedd Mark yn Uwch Reolwr yn Adran Aswiriant a Chyngor, ac yn ogystal â rheoli portffolio amrywiol o gleientiaid archwilio, yn cynnwys nifer o gwmnïau rhestredig, Roedd Mark hefyd yn rhan o drefnu astudrwydd priodol mewn caffaeliadau, cynlluniau busnes a chynghori ar IPOs. Mark oedd y Prif Gynghorydd Technegol yn swyddfa Caerdydd Deloitte and Touche LLP, yn gyfrifol am reoli ansawdd allbwn y Swyddfa.
Ers ymuno â Boomerang, bu Mark yn gyfrifol am gwblhau ac integreiddio'r pedwar caffaeliad a chwblhau'r cyllido Cyfalaf Menter o Cyllid Cymru. Mae ganddo'r cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am y rheolaeth cynhyrchu a'r gweithgaredd ôl gynhyrchu yn ogystal â chynorthwyo Huw Davies gyda chyfeiriad strategol y Grŵp.
Graddiodd Mark o Brifysgol Manceinion gyda gradd mewn Mathemateg ac mae'n gyfrifydd siartredig cymwysedig.
Gareth Rees - Cyfarwyddwr Gweithredol
Ymunodd Gareth â'r cwmni yn 1997 ac â'r Bwrdd yn 2002. Mae'n cynhyrchu cynnwys rhwydwaith y Grŵp ym meysydd adloniant ffeithiol ac adloniant ac ef a ddyfeisiodd a chynhyrchu cynnwys chwaraeon eithafol y Grŵp yn cynnwys 'Freesports on 4' a enillodd wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng nghategori Cyfres Chwaraeon Orau 2005 a hefyd gwobr BAFTA Cymru. Trwy ei ymwneud â chwaraeon eithafol mae hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu a rheoli gwerthiant rhyngwladol a dosbarthu ein cyfres fyd eang '360Surfing'.
Cyn ymuno â'r Grŵp roedd Gareth yn Uwch Gynorthwy-ydd Ymchwil Rolls Royce ym Mhrifysgol Abertawe. 'Stress and Fatigue in Alloys' oedd pwnc ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Cymru yn 1995.
Roger Moore - Cyfawryddwr Anweithredol
Gwasanaethodd Roger Moore ar y Bwrdd ers 2004 yn rhoi cyngor masnachol cyffredinol a chefnogaeth i'r rheolwyr gweithredol a chynorthwyo gyda'r penderfyniad ar gyfeiriad strategol busnes y Grŵp. Ochr yn ochr â'r apwyntiad hwn cafodd Roger ei benodi yn Brif Weithredwr Amethyst Motor Company Limited yn 2005, i droi o gwmpas cwmni gwerthu ceir oedd yn gwneud colledion. Cyn hynny apwyntiwyd Roger yn Is-Lywydd Cyllid dros Ewrop Wesley Clover Corporation, o 2002 i 2005, ac yn y cyfnod hwn roedd yn aelod o dîm gweithredol oedd yn rheoli cronfa breifat gydag amrywiaeth o fuddsoddiadau aeddfed mewn technoleg ac eiddo ynghyd â chronfa cyfalaf menter yn arbenigo mewn technoleg i gwmnïau newydd. Bu'n cynorthwyo'r cwmnïau yn y portffolio drwy'r datblygiadau cynnar hyd at gyfnod tynnu allan boed hynny mewn gwerthiant neu sefydlu ar y farchnad. Treuliodd Roger hefyd saith mlynedd gyda Deloitte LLP yn gweithio o fewn amryw rannau o'r cwmni yn cynnwys Aswiriant a Chyngor, Cyfrifyddiaeth Fforensig ac Adferiad Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol. Symudodd Roger i fyd diwydiant am y tro cyntaf yn 2000 fel Prif Swyddog Cyllid yn Ubiquity Software Corporation Limited, lle chwaraeodd ran allweddol yn sicrhau cyfanswm o £28 miliwn mewn buddsoddiadau gan amryw o sefydliadau ariannol.
Linda James - Cyfarwyddwr Anweithredol
Ymunodd Linda â'r Bwrdd yn mis Hydref 2007. Mae Linda yn entrepreneur ac yn enillydd nifer o wobrau fel cynhyrchydd annibynnol ac uwch-gynhyrchydd dros ugain o gyfresi drama, chwe ffilm fer a phump ffilm nodwedd. Mae'n gyd sylfaenydd Red Rooster Film and Television Entertainment ac Alibi Communications, Mae nawr yn gyd berchennog ac yn rhedeg Sly Fox Films gyda'r cynhyrchydd/gyfarwyddwr Stephen Bayly. Mae Linda ar fwrdd Coolabi plc, cwmni rhestredig ar AIM sy'n berchen, yn datblygu, yn cynhyrchu a rheoli asedion eiddo deallusol creadigrwydd yn maes plant a theuluoedd ac yn eu ecsploetio trwy drwyddedu, masnachu a dosbarthu. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Cronfa Eiddo Deallusol Creadigol yng Nghymru, Asiantaeth ranbarthol Cyngor Ffilm y DU, Screen South, ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr NFTS ac yn cadeirio Sefydliad Ffilm a Theledu'r Plant.
Rheolaeth Gorfforaethol
Mae'r Cyfarwyddwyr yn ymwybodol o werth a phwysigrwydd safonau uchel o reolaeth gorfforaethol ac yn bwriadu, wedi cymryd i ystyriaeth faint a chyfansoddiad y Bwrdd, cydymffurfio gyda phrif ofynion y Cod Cyfun. Mae'r Cwmni hefyd yn bwriadu dilyn yr argymhellion ar reolaeth gorfforaethol y Quoted Companies Alliance ar gyfer cwmnïau sy'n masnachu cyfranddaliadau ar AIM.
Pwyllgorau'r Bwrdd
Yn dod i fodolaeth gyda'r Mynediad, sefydlodd y Bwrdd Bwyllgor Archwilio, Pwyllgor Cydnabyddiaeth a Phwyllgor Enwebu gyda chyfrifoldebau dirprwyedig ffurfiol.
Cadeirir y Pwyllgor Archwilio gan Roger Moore a'r aelod arall fydd Linda James. Gan y Pwyllgor Archwilio y bydd y cyfrifoldeb cyntaf am fonitro ansawdd y rheolaeth fewnol a sicrhau fod perfformiad ariannol y cwmni yn cael ei fesur yn iawn ac yn cael ei adrodd. Bydd yn derbyn ac yn adolygu adroddiadau gan reolwyr y Cwmni a'r archwilwyr mewn perthyna â systemau rheoli a ddefnyddir drwy'r Grŵp. Bydd y Pwyllgor archwilio yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn a bydd ganddo fynediad heb gyfyngiad i archwilwyr y Cwmni.
Bydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth yn cael ei gadeirio gan Linda James. Yr aelod arall fydd Roger Moore. Bydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth yn adolygu perfformiad y Cyfarwyddwyr Gweithredol a gwneud argymhellion i'r Bwrdd ar gyflogau a thelerau cyflogi. Bydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth hefyd yn argymell i'r Bwrdd ar roi opsiynau cyfranddaliadau neu anogaethau ecwiti fydd yn bodoli o bryd i'w gilydd. Bydd cydnabyddiaeth a thelerau apwyntiad y Cyfarwyddwyr Anweithredol yn ael eu gosod gan y Bwrdd.
Cadeirir y Pwyllgor Enwebu gan Roger Moore. Yr aelod arall fydd Linda James. Bydd y Pwyllgor Enwebu yn gyfrifol am sicrhau fod gan y Bwrdd ddull gweithredu ffurfiol a thryloyw a bydd yn cymryd y prif gyfrifoldeb am adolygu cydbwysedd ac effeithiolrwydd y Bwrdd ac adnabod sgiliau angenrheidiol a'r unigolion hynny sy'n fwyaf tebygol o'u cynnig i'r Cwmni.
Mae'r Cyfarwyddwyr yn bwriadu cydymffurfio gyda a sicrhau cydymffurfiaeth gyda Rheol 21 o Reolau AIM ar gyfer cwmnïau mewn perthynas ag ymwneud gan gyfarwyddwyr a staff cyflogedig perthnasol gyda chyfrannau'r Cwmni ac, i'r perwyl hwn, mae'r Cwmni wedi mabwysiadu cod cyfranddaliadau addas.

