Strategaeth
Strategaeth y Grŵp ydyw cyrraedd twf cryf ac organig trwy ddylanwadu ar y rwydwaith presennol o gysylltiadau, ynghyd â chaffael strategol o gwmnïau cynhyrchu annibynnol cyffelyb, gan anelu i fod yn gyflenwr o ddewis i'r Rhwydweithiau yn y DU sy'n chwilio am ffyrdd o gyflenwi eu cwota yn y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau.
Ar hyn o bryd mae strategaeth organig y Grŵp wedi ei dargedu ar draws holl ystod y cynnwys ac ar sylfaen y cwsmeriaid cyfredol. Cred y Cyfarwyddwyr fod nifer o gyfleon caffael yn ymddangos yn y diwydiant cynhyrchu annibynnol ar hyn o bryd ac mae'r Cyfarwyddwyr yn credu fod y Grŵp mewn lle cryf i arwain cyfuniad o gwmnïau annibynnol ledled y DU. Fe dargedir y cwmnïau sy'n brysur mewn genres allweddol i'r farchnad.
Mae Boomerang yn dechrau defnyddio'r cydweithio gyda chwmnïau rhyngrwyd a mudol ynghyd â’i wasanaethau gwe ei hun. Yn hanesyddol mae'r Grŵp wedi ceisio cadw'r hawliau yn y cynnwys mae'n ei gynhyrchu ac mae'r Cyfarwyddwyr yn bwriadu defnyddio'r rhain wrth fynd ymlaen.

