
Alfresco
Enillodd Alfresco lawer o wobrau fel cynhyrchydd blaengar rhaglenni yn meysydd ffeithiol, adloniant a cherddoriaeth. Fe'i hadwaenir yn y DU ac mewn marchnadoedd rhyngwladol am gyfresi fel 'Plastic Surgery School' i Discovery Channel a chyd-gynhyrchiadau fel Gallipoli - gydag Awstralia ar gyfer S4C ac ABC.
Yn y farchnad yma yng Nghymru mae'n arwain mewn rhaglenni adloniant ffeithiol. Mae'r gyfres hanes cyfoes i ITV Cymru, 'Stories From The Street' yn nefoedd i'r rhai sydd am edrych tu ôl i'r llenni ar y byd, tra bod y gyfres i BBC Cymru, 'Discovering Welsh Houses' yn mynd a ni o gwmpas rhai o adeiladau mwyaf diddorol ein gwlad.
Mae cerddoriaeth glasurol yn faes arbenigedd i'r cwmni. Yn ogystal â rhaglenni llwyddiannus gyda'r canwr byd enwog Bryn Terfel, mae Alfresco'n cynhyrchu cyfres realiti gorawl Codi Canu i S4C ac wedi cynhyrchu rhaglenni gyda thalentau canu disgleiriaf ein cyfnod yn y gyfres Divas.
Wrth gyfuno cynnydd mewn comisiynau a chynlluniau datblygu gyda'r prif gleientiaid mae gan Alfresco enw am gynhyrchu cyfresi hir poblogaidd sy'n gallu dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn.

