
Apollo
Adeiladodd Teledu Apollo broffil cryf o gwmpas drama o'r safon uchaf a rhaglenni i blant.
Daeth enw da'r cwmni yn maes drama o nifer o brosiectau ffuglen sy'n cynnwys dramâu unigol a chyfresi sy'n dychwelyd i S4C.
Ar y llwyfan rhyngwladol, gwobrwywyd gallu'r cwmni gyda'r Rose d'Or am y ddrama Con Passionate yn Montreux (yn y categori 'Sebon'). Mae'r gyfres yn darlunio côr meibion yng Nghymru sy'n cael merch yn arweinydd.
Mae'r rhaglenni plant yn cynnwys y cyfresi comedi Hotel Eddie - gyda'r bwtler dihafal ac O Na Y Morgans - wedi ei seilio ar antics teulu anghredadwy. Mae'r gyfres Dawnstastig yn cefnogi plant i ymarfer trwy ddawnsio, tra bod Noc, Noc yn cyrraedd cartrefi gwylwyr yn annisgwyl ac yn darlledu'n fyw oddi yno.
Maes arbenigol a diddorol i Apollo ydy'r gyfres chwaraeon fyw, Rasus. Mae'n dilyn rasio harnais, sy'n draddodiad hir a chryf mewn rhannau o Gymru, ac mae'r gyfres bellach yn ei 12fed blwyddyn. Fe'i darlledir trwy'r DU ar S4C ac mae gwerthfawrogiad y gwylwyr yn uchel iawn i'r cyfresi.

