• Hafan
  • Amdanom ni
  • Ein busnesau
  • Buddsoddwyr
  • Cyfryngau
  • Cysylltu â ni

Sefydlwyd Boomerang yn 1994. Mae rhaglenni cenedlaethol a rhyngwladol y cwmni yn cynnwys chwaraeon eithafol, drama, comedi, digwyddiadau byw, rhaglenni plant, cynnwys ar gyfer y we a darllediadau radio.

Fel arweinydd mewn cynhyrchu rhaglenni chwaraeon eithafol, adwaenir Boomerang fwyaf yn y DU am ei raglenni rhwydwaith Freesports on 4 (Channel 4). Mae timoedd cynhyrchu arbenigol, creadigol a brwdfrydig yn teithio'r byd i greu rhaglenni cyffrous a llawn asbri o rai o leoliadau mwyaf ysblennydd ein byd.

Freesports on 4 yw'r endid sy'n sail i'r wefan chwaraeon eithafol, FSO4.com. Mae'r fenter hon yn cael ei berchenogi a'i weithredu gan y grŵp, ac mae'n cynnig profiad arbennig i'r defnyddiwr sy'n cefnogi'r gyfres gyda rhagolygon tywydd, chwilio am leoliadau a gwasanaethau fideo ar alw.

360° Surfing yw brand teledu rhyngwladol arall Boomerang. Bellach yn ei 11eg tymor, hon oedd menter gyntaf y cwmni i gynhyrchu rhaglenni wedi eu noddi, dull o ariannu rhaglen sy'n sail i lawer o gynnyrch eithafol Boomerang, bellach. Fe'i darlledir ar Sky yn y DU, ac fe'i dosberthir i nifer o diriogaethau yn cynnwys, Fox Sport yn UDA, Globosat yn Brazil a Stream yn yr Eidal.

Mae’r cwmni hefyd yn brysur yn datblygu rhaglenni safonol mewn meysydd eraill. Ar gyfer S4C mae Bandit yn strand wythnosol awr o hyd sy’n rhoi llwyfan cyffrous i gerddoriaeth pop Cymraeg. Boomerang hefyd sy’n gyfrifol am gyfres ddrama newydd o safon uchel fydd yn ganolog i amserlen y teulu ar nos Sul ar S4C yn ystod y gaeaf, yn ogystal â cyfres ddrama i’r arddegau. Ochr yn ochr â’r cyfresi mae cyfres o ddramâu unigol yn brigo ar amserlen S4C.

Mae'r cwmni hefyd yn cyflenwi cyfres gerddoriaeth roc boblogaidd, 'Unsigned', i ITV Cymru sy'n rhoi llwyfan i berfformwyr newydd. Ar Channel 4 a'i sianel adloniant E4, mae Boomerang wedi cynhyrchu comedi gwahanol yn arddangos talentau anarchaidd y ddeuawd o Dirty Sanchez, Pritch & Panch, comedi stryd y Mayhem Makers, ac antics meddwol “celebs” Prydain o safbwynt y comedïwr profiadol, Rowland Rivron.

Wedi brwydro'n galed i ennill y tendr ar gyfer dolenni gwasanaeth plant S4C, bydd Boomerang yn darlledu'n fyw am dair awr y dydd o adnoddau stiwdio yng nghanolfan y cwmni o ddiwedd Hydref 2007 ymlaen. Wrth gydweithio gyda phartneriaid cynhyrchu ledled y wlad, mae Boomerang yn cynhyrchu darllediadau allanol ac yn dosbarthu cynnwys o rai o brif ddigwyddiadau Cymru yn cynnwys y Sioe Fawr o Lanelwedd (dros 12 awr y dydd o gynnwys), gyda chynnyrch tebyg o ŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop - Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Yn flynyddol, mae Boomerang yn cyflenwi tua 200 awr o raglenni radio ar gyfer BBC Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â BBC Radio Two a Four. Llwyddiant diweddar i'r tîm egniol a brwdfrydig hwn oedd rhaglenni a gafodd ganmoliaeth uchel gan sylwebwyr, Free George Davies ar BBC Radio Four; Summer of Love ar Radio Two a chyfres fore Sul gyda Shân Cothi ar gyfer Radio Cymru.

^ Nol i'r Top