
Fflic
Mae Fflic yn enwog am werthoedd uchel ei arddull weledol ac wedi hen ennill ei le gyda rhaglenni plant a rhaglenni Ffordd o Fyw.
Mae Fflic yn un o gynhyrchwyr mwyaf rhaglenni plant yn y DU o oedran meithrin i fyny ac mae'n un o brif gyflenwyr S4C yn y maes. Mae hefyd wedi cynhyrchu rhaglenni addysgol i Channel 4 ar hanes a diwylliant ac wedi ei enwebu yng ngwobrau'r Gymdeithas Deledu Frenhinol ar gyfer rhaglenni plant.
Daeth Fflic ā dysgu iaith i fyd teledu realiti gyda chyfresi fel Welsh in a Week a Cariad@Iaith, lle roedd enwogion fel y newyddiadures finiog ei thafod, Janet Street-Porter, yn cael ei chloi am wythnos yng nghanolfan iaith Nant Gwrtheyrn mewn fformat sydd bellach wedi ei werthu'n rhyngwladol.
Mae cyfuno arddull unigryw ar sgrin gydag adnabyddiaeth ddofn o'r maes mewn rhaglenni ffordd o fyw yn arbenigedd gan Fflic. Mae'r cwmni'n cyflenwi'r rhan fwyaf o'r rhaglenni yn y maes yma gyda chyfresi am bensaernļaeth - Y Tŷ Cymreig a 04Wal a ffasiwn - Cwpwrdd Dillad.

