Datganiadau'r Wasg
Boomerang Plus plc Canlyniadau Rhagarweiniol 2008
22 Hydref 2008
Heddiw, mae Boomerang Plus plc (AIM: BOOM.L), yn grŵp o gwmnïau proffidiol, wedi eu integreiddio’n fertigol, yn cynhyrchu rhaglenni teledu aml-genre, wedi ei sefydlu yn Nghaerdydd, yng Nghymru yn cyhoeddi ei set gyntaf o ganlyniadau, ers ei restru ar AIM, ar gyfer y flwyddyn a ddiweddodd ar Fai 31ain, 2008
Uchafbwyntiau Ariannol
- Cynnydd refeniw o 100% i £20.93m (2007: £10.46m)
- Elw gweithredol gywiriedig* wedi cynyddu 144 y cant i £2.20m (2007: £0.90m)
- Elw gweithredol cyn treth* wedi cynyddu 144 y cant i £2.10m (2007: £0.86m)
- Elw cyn treth wedi cynyddu 91% i £1.30m (2007: £0.68m)
- Cynnydd arian a chyfwerthoedd arian i £6.33m (2007 -£3.94m)
* wedi ei gywiro ar gyfer treuliau gweinyddol eithriadol (2008: £0.74m, 2007: £nil), darpariaethau amhariad (2008: £nil, 2007: £0.10m), amorteiddio asedion annirweddol yn deillio o gaffaeliadau busnesau (2008: £0.04m, 2007: £0.06m) a thaliadau’n seiliedig ar gyfranddaliadau (2008: £0.02m, 2007: £0.02m).
Uchafbwyntiau Gweithredol
- Mynediad llwyddiannus i AIM yn Rhagfyr 2007 yn dilyn gosodiad o £3miliwn ((£2.21 miliwn llai treuliau)
- Ennill ail gomisiynau sylweddol gan Channel 4 a S4C, yn arbennig mewn drama, chwaraeon eithafol a rhaglenni ffordd o fyw.
- Cychwyn cynhyrchu dolenni ar gyfer Planed Plant i S4C yn mis Hydref 2007, sy’n werth £4 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd. Enillwyd y gystadleuaeth mewn tendr agored mewn cystadleuaeth gref.
- Buddsoddiad cyson mewn staff, adnoddau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, cyfleon cyfryngau newydd a datblygiad rhaglenni.
Rhagolygon
- Gwelededd uchel i gomisiynau’r dyfodol
- Hinsawdd rheoleiddio ffafriol
- Mantolen gryf i ariannu cynnydd
- Masnachu cyfredol yn gyson â disgwyliadau’r cyfarwddwyr
Dywedodd Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr Boomerang Plus:
“Yr ydym yn falch o gyhoeddi ein canlyniadau cyntaf i’r farchnad. YN ystod y flwyddyn hyd at Mai 31ain 2008, profodd y Grŵp gynnydd cryf a bu’n llwyddiannus yn sicrhau ail gomisiynau ar gyfer nifer sylweddol o’i raglenni allweddol. Byddwn yn parhau i ddatblygu a thyfu’r Grŵp yn organig, ac yn chwilio am gaffaeliadau fydd yn ychwanegu gwerth ac amrywiaeth i’n cynigion.”
- Diwedd -
Am fwy o Wybodaeth, cysylltwch â:
| Boomerang Plus plc | Via Redleaf Communications |
|---|---|
| Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr | |
| Mark Fenwick, Cyfarwyddwr Cyllid | |
| Redleaf Communications | + 44 (0)20 7822 0200 |
| Sanna Sumner/ Anna Dunkin | boomerang@redleafpr.com |
| Altium Capital Limited (Nomad) | +44 (0)20 7484 4040 |
| Tim Richardson / Melanie Szalkiewicz |
Nodiadau i Olygyddion
- Mae gan y Grŵp, a sefydlwyd yn 1994, brofiad eang mewn cynhyrchu cynnwys mewn amrywiaeth o genres, yn cynnwys rhaglenni ieuenctid, ffordd o fyw, cerddoriaeth, adloniant. Rhaglenni plant, chwaraeon eithafol a drama.
- Mae gan y Grŵp welededd da i’r refeniw gan fod cyfran uchel ohono wedi ei gytundebu gyda’r darlledwyr.
- Mae’r farchnad i gwmnïau cynhyrchu annibynnol yn y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau wedi tyfu yn dilyn gosod cwota gan y rheoleiddiwr Ofcom yn mynnu fod rhwng 10% a 50%, yn dibynnu pa ddarlledwr, o raglenni cymwys yn cael eu cynhyrchu y tu allan i’r M25.
- Mae Boomerang yn cael ei gyfrif ymhlith y pum prif gwmni cynhyrchu annibynnol, yn ôl enillion, y Cenhedloedd a’r rhanbarthau yn ôl arolwg Broadcast Survey (Nations and Regions) 2007
- Strategaeth y Bwrdd yw cael twf organig cryf dan ddylanwad busnes y cwsmeriaid presennol a chyplysu hyn gyda chaffaeliadau strategol, gyda’r bwriad o ddod yn gyflenwr mawr i rwydweithiau’r DU sydd am fodloni’r cwotâu o’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau.
- Mae Boomerang mewn sefyllfa dda i gymryd rhan yn y broses o gyfuno cwmnïau ledled y DU. Bydd gan y cwmnïau fydd yn cael eu targedu drac record dda, fydd yn cynorthwyo’r Grŵp i dyfu ymhellach, y tu allan i Gymru.
Edrych ar y fersiwn PDF llawn o Canlyniadau Rhagarweiniol 2008 (294KB)
|
Mae’r dudalen hon yn cynnwys cysylltiadau mewn fformat PDF. I ddarllen y ddogfen efallai y bydd angen i chwi lwytho Adobe Acrobat Reader yn rhad ac am ddim. Fe agorir y cysylltiadau mewn ffenestr newydd yn y porwr. |

