Datganiadau'r Wasg
Cynnwys Brand a Chomisiynau Ffordd o Fyw
23 Hydref 2008
Heddiw, mae Boomerang Plus plc (AIM: BOOM.L), yn grŵp o gwmnïau proffidiol, wedi eu integreiddio’n fertigol, sy’n gweithredu o fewn Cenhedloedd a Rhanbarthau’r DU yn cyhoeddi fod ei Adrannau Cynnwys Brand a Chynnwys Ffordd o Fyw wedi ennill comisiynau newydd ac ail gomisiynau sylweddol.
Mae Adran Cynnwys Brand Boomerang, sy’n cynnwys cynyrchiadau blaengar ym maes chwaraeon eithafol, wedi ennill tendr am gomisiwn i gynhyrchu’r Sony Erikson Bboy Championships, cystadleuaeth bregddawnsio ryngwladol, ynghyd â chomisiwn am 4Sport, cyfres o 10x 60munud ar gyfer Channel 4 fydd yn dilyn unigolion gobeithiol ar eu taith i’r gemau Olympaidd yn 2012.
Mae Fflic, un o gwmnïau’r Grŵp, wedi gweld ail gomisiynu ei gyfresi llwyddiannus ar gyfer 2009. Comisiynwyd Cwpwrdd Dillad am bumed cyfres. Mae brand 04Wal wedi ymestyn i 04Wal Gwestai i edrych ar westai o gwmpas y byd a bydd Y Dref Gymreig yn ymchwilio hanes cynllunio, pensaernïaeth a chynllunio yn nhrefi Cymru. Mae’r tair cyfres yn 12 rhaglen 30 munud ac fe’u darlledir ar S4C yn 2009.
Mae’r ail gomisiynu yn arwyddocaol a chyda’r rhaglenni yn penwythnos yma o Ŵyl Freeze 08 yng Ngorsaf Ynni Battersea yn Llundain y penwythnos hon ar gyfer Freesports on 4, mae’r Grŵp yn disgwyl i’r rhain gyfrannu £2 filiwn at refeniw’r Grŵp yn 2008/9.
Dywedodd Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr Boomerang Plus:
“Rydym yn falch fod ein hadran Cynnwys Brand wedi dangos cynnydd sylweddol a bod Fflic yn parhau i ddatblygu’r cyfresi ffordd o fyw. – Mae’r comisiynau hyn yn ategu trac record y Grŵp a’r gallu i gynhyrchu rhaglenni o’r safon uchaf ar gyfer darlledwyr a noddwyr brandiau.”
- Diwedd -
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
| Boomerang Plus plc | Trwy Redleaf Communications |
|---|---|
| Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr | |
| Mark Fenwick, Cyfarwyddwr Cyllid | |
| Redleaf Communications | 020 7822 0200 |
| Sanna Lehtinen/ Anna Dunkin | boomerang@redleafpr.com |
Nodiadau i Olygyddion
- Mae gan y Grŵp, a sefydlwyd yn 1994, brofiad eang mewn cynhyrchu cynnwys mewn amrywiaeth o genres, yn cynnwys rhaglenni ieuenctid, ffordd o fyw, cerddoriaeth, adloniant. Rhaglenni plant, chwaraeon eithafol a drama.
- Mae gan y Grŵp welededd da i’r refeniw gan fod cyfran uchel ohono wedi ei gytundebu gyda’r darlledwyr.
- Mae’r farchnad i gwmnïau cynhyrchu annibynnol yn y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau wedi tyfu yn dilyn gosod cwota gan y rheoleiddiwr Ofcom yn mynnu fod rhwng 10% a 50%, yn dibynnu pa ddarlledwr, o raglenni cymwys yn cael eu cynhyrchu y tu allan i’r M25.
- Mae Boomerang yn cael ei gyfrif ymhlith y pum prif gwmni cynhyrchu annibynnol, yn ôl enillion, y Cenhedloedd a’r rhanbarthau yn ôl arolwg Broadcast Survey (Nations and Regions) 2007
- Strategaeth y Bwrdd yw cael twf organig cryf dan ddylanwad busnes y cwsmeriaid presennol a chyplysu hyn gyda chaffaeliadau strategol, gyda’r bwriad o ddod yn gyflenwr mawr i rwydweithiau’r DU sydd am fodloni’r cwotâu o’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau.
- Mae Boomerang mewn sefyllfa dda i gymryd rhan yn y broses o gyfuno cwmnïau ledled y DU. Bydd gan y cwmnïau fydd yn cael eu targedu drac record dda, fydd yn cynorthwyo’r Grŵp i dyfu ymhellach, y tu allan i Gymru.
Edrych ar y fersiwn PDF llawn o Cynnwys Brand a Chomisiynau Ffordd o Fyw (119KB)
Mae’r dudalen hon yn cynnwys cysylltiadau mewn fformat PDF. I ddarllen y ddogfen efallai y bydd angen i chwi lwytho Adobe Acrobat Reader yn rhad ac am ddim. Fe agorir y cysylltiadau mewn ffenestr newydd yn y porwr. |

