Datganiadau'r Wasg
Boomerang+ i gyrraedd uchelfannau Freeze 2008 yn Llundain
23 Hydref 2008
Mae Boomerang+ Plc, Grŵp cynhyrchu rhaglenni teledu blaengar ac un o'r arweinwyr Ewropeaidd mewn cynhyrchu cynnwys chwaraeon rhydd, yn cydweithio gyda Channel 4 a chwmni trefnu digwyddiadau Sportsvision, i lansio Freesports on 4: Freeze. Mae'r Ŵyl Eirafyrddio a cherddoriaeth yn ymestyn brand enwog Boomerang Freesports on 4 tra hefyd yn cyflenwi toreth o raglenni ar Channel 4.
Bydd Freeze 2008 yn digwydd rhwng Hydref 23 a 28 yng Ngorsaf Ynni Battersea yn ne orllewin Llundain. Bydd yr orsaf ynni enwog yn cael ei thrawsnewid, wrth ddefnyddio 500 tunnell o eira go iawn, I naid sgïo ac eira fyrddio sy'n cyrraedd 30 medr o uchder. Bydd yr ŵyl yn croesawu cystadleuaeth LG FIS Snowboard World Cup Big Air sy'n galluogi eirafyrddwyr gorau'r byd i gyrraedd chwaraeon Olympaidd y Gaeaf 2010 yn Vancouver. Bydd y goreuon o'r DU yn gobeithio gwneud eu marc, yn cynnwys Dan Wakeham, Dom Harrington, Sam Cullum, a Ben Kilner.
Bydd Gŵyl Freeze hefyd yn croesawu nifer o gystadlaethau sgïo yn cynnwys cystadleuaeth ryngwladol y dull rhydd gydag enwau chwedlonol fel Tanner Hall, Jon Olsson, a Jacob Wester.
Yn ogystal â sgïo ac eirafyrddio bydd Freeze 2008 yn cynnig bandiau yn perfformio dros y pedwar diwrnod. Yn eu plith bydd Cyprus Hill, The Enemy, The Automatic, Annie Mac, Reverend and the Makers, y Cuban Brothers, a llawer mwy.
Mae Boomerang yn un o'r cwmnïau cynhyrchu cynnwys chwaraeon eithafol mwyaf blaengar. Mae'r timoedd talentog ac arbenigol yn crwydro'r byd I gyflenwi cynnwys cyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer Freesports on 4.
Bydd Freesports on 4: Freeze 2008 yn cael ei gyflwyno gan Phil Young a Jamalla a'I gynhyrchu gan Dylan Davies mewn tair rhaglen i Channel 4. Bydd y rhaglen awr gyntaf yn cael ei darlledu ar Dachwedd 2il; bydd yr ail raglen awr yn cael ei darlledu y penwythnos canlynol ac yn dangos y talentau chwaraeon eithafol. Fe welir y cynnwys cerddorol mewn rhaglen hanner awr ymhellach ymlaen.
Dywedodd yr Uwch-gynhyrchydd, Gareth
Rees;
"Mae'n gyffrous iawn i weithio gyda Channel 4 a Sportsvision ar
brosiect Freeze i gynhyrchu cynnwys chwaraeon eithafol ar gyfer
Freesports on 4. Rydym wedi bod yn adeiladu brand Freesports on 4
brand dros y blynyddoedd ac mae'r ŵyl yma yn estyniad
ffantastig o'r brand. Mae hwn yn ddigwyddiad o safon byd - eira a
sgïo gyda cherddoriaeth yn adlewyrchu'r sîn. Mae gennym
yr arbenigedd, y creadigrwydd a'r rhagoriaeth i ddal y gorau yn y
byd yn perfformio ar y lefel uchaf yn y naid eira fwyaf yn y DU hyd
yn hyn!"
- diwedd -
Ymholiadau i;
| Redleaf Communications | 020 7822 0200 |
|---|---|
| Sanna Lehtinen/ Anna Dunkin | boomerang@redleafpr.com |
Nodyn I Olygyddion:
Boomerang+
- Mae gan y Grŵp, a sefydlwyd yn 1994, brofiad eang o gynhyrchu cynnwys mewn amrywiaeth o genres, yn cynnwys rhaglenni ieuenctid, cerddoriaeth, adloniant, rhaglenni plant, chwaraeon eithafol a drama.
- Mae Boomerang yn y pump uchaf o'r cwmnïau cynhyrchu annibynnol yn y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau yn ôl Broadcast Survey (Nations and Regions) 2007.
Edrych ar y fersiwn PDF llawn o Boomerang+ i gyrraedd uchelfannau Freeze 2008 yn Llundain (98 KB)
|
|
Mae'r dudalen hon yn cynnwys cysylltiadau mewn fformat PDF. I ddarllen y ddogfen efallai y bydd angen i chwi lwytho Adobe Acrobat Reader yn rhad ac am ddim. Fe agorir y cysylltiadau mewn ffenestr newydd yn y porwr. |

