• Hafan
  • Amdanom ni
  • Ein busnesau
  • Buddsoddwyr
  • Cyfryngau
  • Cysylltu â ni

Datganiadau'r Wasg

Boomerang Plus plc - Newid ar y Bwrdd

30 Hydref 2008

Mae Boomerang Plus plc (AIM: BOOM.L), cwmni cynhyrchu annibynnol, proffidiol ac wedi ei integreiddio’n fertigol sy’n creu cynnwys teledu amrywiol yn y cenhedloedd a’r rhanbarthau, yn falch o gyhoeddi apwyntiad Richard Huntingford yn Gadeirydd Anweithredol. Bydd Roger Moore yn aros ar y Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol annibynnol.

Roedd Richard, 52, yn Brif Weithredwr Grŵp Chrysalis plc o fis Rhagfyr 2000 tan Mis Medi2007, wedi ymuno â’r Grŵp fel Cyfarwyddwr Datblygiad Corfforaethol yn Mehefin 1987. Yn Chrysalis roedd yn gyfrifol am adeiladu’r cwmni I Grŵp Cyfryngol gyda seiliau cadarn yn meysydd radio, teledu a cherddoriaeth. Yn ystod ei gyfnod ef daeth Chrysalis Television yn gynhyrchydd blaengar o ddrama, adloniant, rhaglenni ffeithiol a chwaraeon gyda rhaglenni fel Midsomer Murders, Richard and Judy, Top Ten, F1 a Football Italia, cyn ei werthu i All3Media yn Awst 2003. Sefydlodd Richard Chrysalis Radio yn 1993 a llwyddo i ddatblygu Grŵp gyda rhai o’r brandiau radio mwyaf llwyddiannus fel Heart, Galaxy ac LBC cyn gwerthu am £170 miliwn i Global Radio yn Gorffennaf2007. O Fedi 2007 roedd Richard yn Gadeirydd Gweithredol Virgin Radio tan ei gaffaeliad gan Times of India yn Mehefin2008. Enillodd Richard ei gymwysterau fel Cyfrifydd Siartredig gyda KPMG ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad ar lefel byrddau PLC yn y diwydiannau cyfryngol.

Dywedodd, Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr Boomerang:

“Ar ran y Bwrdd, mi garwn ddiolch i Roger am ei gyfraniad i Boomerang ac yn arbennig ei gyfraniad sylweddol i’n lleoliad ar AIM. Rydym yn croesawu ei gefnogaeth i’r dyfodol fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar y Bwrdd.

“Rydym yn hod o falch o groesawu Richard i’r Bwrdd. Mae ganddo brofiad a llwyddiant sylweddol mewn busnes cwmnïau cyfryngol a fydd yn ychwanegiad gwerthfawr i’r Cwmni. Mae’r Grŵp ar adeg cyffrous yn ei ddatblygiad a chredwn y bydd profiad Richard yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r cyfnod nesaf tra bod y Grŵp yn dal i dyfu.”

Ychwanegodd Richard Huntingford, Cadeirydd Anweithredol newydd Boomerang:

"Rwy’n hapus iawn fy mod wedi ymuno gyda Boomerang ar adeg mor gyffrous yn ei ddatblygiad. Mae’r cwmni wedi mwynhau cynnydd cryf dros y flwyddyn diwethaf ac wedi cyhoeddi canlyniadau cadarn yr wythnos diwethaf. Gyda mantolen gryf a rheolaeth brofiadol ac uchelgeisiol, mae’r Cwmni mewn sefyllfa ardderchog i fanteisio ar y cyfleon sylweddol of fewn y farchnad gyfnewidiol yn y cyfryngau ar hyn o bryd.”

Mae Richard Norman Legh Huntingford wedi bod yn gyfarwyddwr y cwmnïau canlynol yn ystod y pum mlynedd diwethaf:

Current Directorship

Date

RNLH Consulting Limited

25 Sept 2007

Past Directorships

Date

AIR Overworld Limited

1994 – 2007

AIR Records Limited

1994 – 2007

Air Studios (Lyndhurst) Limited

1990 – 2006

Chrysalis Digital Radio Limited

2000 – 2007

Chrysalis Group plc

1987 – 2007

Chrysalis Holdings Limited

1990 – 2007

Chrysalis Limited

1997 – 2007

Chrysalis Mobile Solutions Limited

2004 – 2007

Chrysalis New Media Investments Limited

2001 – 2007

Chrysalis Picture Library Limited

2000 – 2007

Chrysalis Radio Holdings Limited

2002 – 2007

Chrysalis Radio Limited

1995 – 2007

Chrysalis Radio London Limited

1993 – 2007

Chrysalis Retail Entertainment Limited

1993 – 2007

Chrysalis Television Mobiles Limited

1996 – 2007

Faze Three (East Midlands) Limited

1997 – 2007

Galaxy Radio Limited

1994 – 2007

Golden Square Networks Limited

2007 – 2008

Heart TV Limited

1998 – 2007

Puremix Limited

2000 – 2007

Radiocentre Limited

2007 – 2008

Rivals Europe Limited

2000 – 2007

Rojo Leisure Limited

1999 – 2007

Salamander Books Limited

1999 – 2005

SMG Digital Radio Limited

2008 – 2008

The Clean Car Company Limited

1988 – 2005

The Echo Label Limited

1993 – 2007

Virgin Mobile Holdings (UK) plc

2005 – 2006

Virgin Radio Holdings Limited

2007 – 2008

Virgin Radio Limited

2007 – 2008

Washworks (MK) Limited

1992 – 2005

Cadarnhaodd Mr. Huntingford nad oedd angen datgeliadau pellach dan reolau AIM Schedule 2 paragraff (g)

- Diwedd -

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Boomerang Plus plc

Via Redleaf Communications

Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr

Mark Fenwick, Cyfarwyddwr Cyllid

Richard Huntingford, Cadeirydd Anweithredol

Tel: 07802 793 444

Altium Capital Limited

Tim Richardson / Melanie Szalkiewicz

Tel: 020 7484 4040

Redleaf Communications

Tel: 020 7822 0200

Sanna Sumner/ Anna Dunkin

boomerang@redleafpr.com

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae gan y Grŵp, a sefydlwyd yn 1994, brofiad eang mewn cynhyrchu cynnwys mewn amrywiaeth o genres, yn cynnwys rhaglenni ieuenctid, ffordd o fyw, cerddoriaeth, adloniant. Rhaglenni plant, chwaraeon eithafol a drama.
  • Mae gan y Grŵp welededd da i’r refeniw gan fod cyfran uchel ohono wedi ei gytundebu gyda’r darlledwyr.
  • Mae’r farchnad i gwmnïau cynhyrchu annibynnol yn y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau wedi tyfu yn dilyn gosod cwota gan y rheoleiddiwr Ofcom yn mynnu fod rhwng 10% a 50%, yn dibynnu pa ddarlledwr, o raglenni cymwys yn cael eu cynhyrchu y tu allan i’r M25.
  • Mae Boomerang yn cael ei gyfrif ymhlith y pum prif gwmni cynhyrchu annibynnol, yn ôl enillion, y Cenhedloedd a’r rhanbarthau yn ôl arolwg Broadcast Survey (Nations and Regions) 2007.
  • Strategaeth y Bwrdd yw cael twf organig cryf dan ddylanwad busnes y cwsmeriaid presennol a chyplysu hyn gyda chaffaeliadau strategol, gyda’r bwriad o ddod yn gyflenwr mawr i rwydweithiau’r DU sydd am fodloni’r cwotâu o’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau.
  • Mae Boomerang mewn sefyllfa dda i gymryd rhan yn y broses o gyfuno cwmnïau ledled y DU. Bydd gan y cwmnïau fydd yn cael eu targedu drac record dda, fydd yn cynorthwyo’r Grŵp i dyfu ymhellach, y tu allan i Gymru.

Edrych ar y fersiwn PDF llawn o Boomerang Plus plc - Newid ar y Bwrdd (130KB)

Adobe Acrobat Reader icon and link to Adobe website (opens in a new window)

Mae’r dudalen hon yn cynnwys cysylltiadau mewn fformat PDF. I ddarllen y ddogfen efallai y bydd angen i chwi lwytho Adobe Acrobat Reader yn rhad ac am ddim. Fe agorir y cysylltiadau mewn ffenestr newydd yn y porwr.

^ Nol i'r Top