Datganiadau'r Wasg
Boomerang Plus plc Canlyniadau dros dro 2008
26 February 2009
Heddiw cyhoeddodd Boomerang Plus plc (AIM: BOOM.L), grŵp o gwmnïau proffidiol wedi eu hintegreiddio’n fertigol sy’n cynhyrchu rhaglenni teledu aml-genre yn annibynnol ac yn gweithredu yn y Cenhedloedd a’r rhanbarthau, ei ganlyniadau heb eu harchwilio am y chwe mis hyd at Dachwedd 30 2008.
Uchafbwyntiau Ariannol
- Trosiant wedi cynyddu 9.4 y cant i £11.76 miliwn (2007: £10.75 miliwn)
- Elw gweithredol cyn eitemau eithriadol wedi cynyddu 8.5 y cant i £1.10 miliwn (2007: £1.01 miliwn)
- Elw cyn treth ac eitemau eithriadol wedi cynyddu 15.2 y cant i £1.08 miliwn (2007: £0.94 miliwn)
- Arian a chyfwerth arian o £3.98 miliwn (2007: £4.42 miliwn)
Uchafbwyntiau Gweithredol
- Integreiddio’r busnesau presennol yn parhau.
- Ehangu’r adran rhaglenni a ariannwyd gan hysbysebion (Advertiser Funded Programmes – AFP) gyda chomisiynau sylweddol yn cynnwys y “Sony Ericsson B-boy Championships” a’r “Sony Playstation GT Academy”
- Parhau’r cynnydd a’r buddsoddiad mewn adnoddau ôl-gynhyrchu o 18%
Rhagolygon
- Mewn lle da i elwa ar reoliadau Cenhedloedd a Rhanbarthau
- Amlygrwydd da i incwm a chomisiynau yn y dyfodol.
- Masnachu cyfredol yn ôl disgwyliadau’r Bwrdd.
Dywedodd Huw Davies, Prif Weithredwr Boomerang Plus:
“Dros y chwe mis hyd at Tachwedd 2008, mae’r Grŵp wedi cadarnhau ei le fel un o’r prif chwaraewyr yng Nghenhedloedd a Rhanbarthau’r DU.
“Mae gennym dîm rheoli sydd wedi profi ei hun, mantolen gref, amlygrwydd incwm ac ail-gomisiynau am y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn rhoi llwyfan gwych i ni fanteisio ar y cyfleon sylweddol sy’n bodoli yn y farchnad gyfryngol gyfnewidiol hon.”
- Diwedd -
Am fwy o wybodaeth:
| Boomerang Plus plc | Via Redleaf Communications |
| Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr | |
| Mark Fenwick, Cyfarwyddwr Cyllid | |
| Altium Capital Limited (NOMAD) | 020 7484 4040 |
| Tim Richardson/ Melanie Szalkiewicz | |
| Evolution Securities Limited (Broker) | 020 7071 4300 |
| Tom Price/ Jeremy Ellis/ Adam Lloyd | |
| Redleaf Communications | 020 7566 6700 |
| Sanna Sumner/ Anna Dunkin | boomerang@redleafpr.com |
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae gan y Grŵp, a sefydlwyd yn 1994, brofiad helaeth mewn cynhyrchu cynnwys mewn amrywiol genres, yn cynnwys rhaglenni pobl ifanc, ffordd o fyw, cerddoriaeth, adloniant, rhaglenni plant, chwaraeon eithafol a drama.
- Mae gan y Grŵp amlygrwydd uchel i’w incwm arfaethedig gan fod cyfran uchel o’i incwm cyllidebol wedi ei gytundebu gyda darlledwyr.
- Mae’r farchnad ar gyfer cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol yn y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau wedi tyfu yn dilyn gosod cwotâu gan y rheoleiddiwr, Ofcom, sy’n mynnu bod rhwng 10 y cant a 50 y cant o raglenni cymwys, yn dibynnu ar pwy yw’r darlledwr, yn cael eu cynhyrchu tu hwnt i’r M25. Nod y Grŵp yw dod yn un o brif gyflenwyr y rhwydweithiau sydd am fodloni eu cwotâu Cenhedloedd a Rhanbarthau.
- Strategaeth y Bwrdd yw sicrhau twf organig wrth gynyddu’r gwaith ar sylfaen y cwsmeriaid presennol wedi ei gyplysu gyda caffaeliadau strategol, yn y cyfryngau digidol a chynhyrchwyr teledu traddodiadol.
View the full PDF version of Interim Results (249KB)
| This page includes links to documents in Portable Document File (PDF) format. To read PDF documents you may need to download the free Adobe Acrobat Reader. For PDF accessibility help, visit Access Adobe. These links will open in a new browser window. |

