• Hafan
  • Amdanom ni
  • Ein busnesau
  • Buddsoddwyr
  • Cyfryngau
  • Cysylltu â ni

Datganiadau'r Wasg

Boomerang Plus plc Canlyniadau Rhagarweiniol 2009

26 Hydref 2009

Heddiw, mae Boomerang Plus (AIM: BOOM.L), sy'n grŵp o gwmnïau proffidiol, wedi eu integreiddio'n fertigol, yn cynhyrchu rhaglenni teledu aml-genre, sy'n gweithredu o fewn y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau, yn cyhoeddi ei ganlyniadau ar gyfer y flwyddyn a ddiweddodd ar Fai 31ain, 2009

Ariannol

  • Refeniw o £19.76 miliwn (2008: £20.93 miliwn), lleihad o 5.6% yn bennaf oherwydd gohirio prosiectau
  • Elw weithredol o £1.14 miliwn (2008: £1.40 miliwn), lleihad o 19%
  • Elw weithredol gywiriedig* o £1.25 miliwn (2008: £2.20 miliwn), lleihad o 43%
  • Elw cyn treth o £1.10 miliwn (2008: £1.30 miliwn), lleihad o 16%
  • Arian a chywerthoedd arian o £3.03 miliwn (2008: £6.33 miliwn)

Gweithredol

  • Cytundeb tair blynedd am £12miliwn gan S4C i gynhyrchu rhaglenni a dolenni ar gyfer plant hŷn gan S4C, yn cadarnhau'r safle fel un o brif gynhyrchwyr Plant yn y DU.
  • Cynnydd refeniw o 93% gan yr adran rhaglenni a gyllidir gan hysbysebwyr (Advertiser Funded Programming 'AFP') i £1miliwn
  • Cynhyrchu 371 awr o raglenni teledu yn y flwyddyn galendr 2008.

* wedi ei gywiro ar gyfer treuliau gweinyddol eithriadol (2009: £dim, 2008: £064 miliwn), ffioedd proffesiynol ar gyfer trafodion corfforaethol aflwyddiannus (2009: £0.07miliwn, 2008: £0.10 miliwn), amorteiddio asedion annirweddol yn deillio o gaffaeliadau busnesau (2009: £0.02 miliwn; 2008: £0.04 miliwn) a thaliadau'n seiliedig ar gyfranddaliadau (2009: £0.02 miliwn, 2008: £0.02 miliwn).

Rhagolygon

  • Gwelededd uchel o gomisiynau yn y dyfodol gyda phibell refeniw o £42.9 miliwn yn cynnwys £16.9 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
  • Hinsawdd reoleiddio ffafriol
  • Mantolen gryf i gyllido twf yn y dyfodol
  • Ymgorffori digwyddiad fel cyd-fenter Freesports on 4 Freeze live ar ôl diwedd y flwyddyn
  • Caffaeliad y cynhyrchydd aml-gyfryngol Method ar ôl diwedd y flwyddyn
  • Caffaeliad Indus Films Limited ar ôl diwedd y flwyddyn
  • Masnachu cyfredol yn unol â disgwyliadau'r Bwrdd.

Dywedodd Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr Boomerang Plus:
“Mae Boomerang wedi mwynhau datblygiadau cadarnhaol a chyffrous yn y misoedd diwethaf ar waethaf yr hinsawdd ariannol anodd.

“Rydym wedi'n lleoli'n dda gyda gwelededd uchel o refeniw, mantolen gryf ac yn gweithredu mewn amgylchfyd rheoleiddio tra ffafriol. Mae hwn yn rhoi llwyfan ardderchog i gyfnod nesaf tyfiant y cwmni.”

- Diwedd -

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Boomerang Plus plc Trwy Redleaf Communications
Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr  
Mark Fenwick, Cyfarwyddwr Cyllid  
   
Redleaf Communications 020 7566 6731
Anna Dunkin/ Samantha Robbins boomerang@redleafpr.com
   
Altium Capital  
Tim Richardson/ Melanie Szalkiewicz 020 7484 4040
   
Evolution Securities  
Adam Lloyd 020 7071 4317

Boomerang Plus plc

  • Mae gan y Grŵp, a sefydlwyd yn 1994, brofiad eang mewn cynhyrchu cynnwys mewn amrywiaeth o genres, yn cynnwys rhaglenni ieuenctid, ffordd o fyw, cerddoriaeth, adloniant, rhaglenni plant, chwaraeon eithafol a drama.
  • Mae'r farchnad i gwmnïau cynhyrchu annibynnol yn y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau wedi tyfu yn dilyn gosod cwota gan y rheoleiddiwr Ofcom yn mynnu fod rhwng 10% a 50%, yn dibynnu pa ddarlledwr, o raglenni cymwys yn cael eu cynhyrchu y tu allan i'r M25
  • Mae Boomerang yn cael ei gyfrif ymhlith y pum prif gwmni cynhyrchu annibynnol, yn ôl enillion, y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau yn ôl arolwg Broadcast (Nations and Regions) 2009
  • Strategaeth y Bwrdd yw cael twf organig cryf dan ddylanwad busnes y cwsmeriaid presennol a chyplysu hyn gyda chaffaeliadau strategol, gyda'r bwriad o ddod yn gyflenwr mawr i rwydweithiau'r DU sydd am fodloni'r cwotâu o'r Cenhedloedd a'r Rhanbarthau.

Edrych ar y fersiwn PDF llawn o Canlyniadau Rhagarweiniol 2009 (128KB)

Adobe Acrobat Reader icon and link to Adobe website (opens in a new window)

Mae’r dudalen hon yn cynnwys cysylltiadau mewn fformat PDF. I ddarllen y ddogfen efallai y bydd angen i chwi lwytho Adobe Acrobat Reader yn rhad ac am ddim. Fe agorir y cysylltiadau mewn ffenestr newydd yn y porwr.

^ Nol i'r Top