Datganiadau'r Wasg
Boomerang Plus plc Canlyniadau dros dro 2009
25 February 2010
Heddiw, mae Boomerang Plus (AIM: BOOM.L), sy’n grŵp o gwmnïau proffidiol, wedi eu integreiddio’n fertigol, yn cynhyrchu rhaglenni teledu aml-genre ac yn gweithredu o fewn y Cenhedloedd a rhanbarthau Lloegr, yn cyhoeddi ei ganlyniadau, heb eu harchwilio ar gyfer y Chwe mis a ddiweddodd flwyddyn a ddiweddodd ar Dachwedd 30, 2009
Uchafbwyntiau Ariannol
- Mae ail hanner blwyddyn ariannol 2010 yn bwysedig mewn cymhariaeth â Blwyddyn Ariannol 2009
- Trosiant o £8.87 miliwn (2008: £11.76 miliwn)
- Elw Crynswth ffiniol yn cynyddu i 19.1% (2008: 16.7%)
- Elw gweithredol o £0.49 miliwn (2008: £1.10 miliwn)
- Arian a chyfwerth arian o £2.82 miliwn (2008: £3.98 miliwn)
Uchafbwyntiau Gweithredol
- Strategaeth Amrywiant yn mynd rhagddo’n dda.:
- Caffaeliad Indus Films Limited yn Hydref 2009
- Buddsoddiad mewn cyd-fenter digwyddiad chwaraeon gaeaf, Big Freeze Limited
- Caffaeliad cynhyrchydd aml-gyfrwng Method
- Cytundeb tair blynedd Gwasanaeth Plant S4C gwerth £12 miliwn
- 482 awr o raglenni yn y flwyddyn galendr 2009
- Cymeradwyaeth i safon rhaglenni’r Grŵp yn parhau.
Rhagolwg
- Mae refeniwiau blwyddyn lawn yn bwysedig i’r ail hanner oherwydd amseriad prosiectau sylweddol
- Gwelededd uchel o refeniw a chomisiynau yn y dyfodol gyda phibell refeniw o £50 miliwn Cynnydd mewn cynyrchiadau rhwydwaith
- Masnachu presennol yn unol â disgwyliadau’r Bwrdd.
- Parhau i archwilio cyfleon caffaeliad
Dywedodd Huw Eurig Davies, Prif Swyddog Gweithredol Boomerang Plus:
“Dros y chwe mis trawsnewidiol hwn, mae’r Grŵp wedi cynyddu amrywiaeth ein cwsmeriaid darlledu, cynyddu genres y portffolio cynnwys, cyrhaeddiad rhyngwladol a chaffael Eiddo Deallusol ac wedi parhau i ennill comisiynau sylweddol.
“I gyd-fynd â’n strategaeth, gwnaethom gynnydd yn ein twf organig a thrwy gaffaeliad. Rydym yn dal i fwynhau gwelededd refeniw uchel ac yr ydym yn falch iawn o fod wedi gwella’n ffiniau elw mewn cyfnod mor anodd..
“Mi hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’n tîm ardderchog o bobl greadigol a thalentog, sy’n parhau i gynhyrchu cynnwys blaengar o’r safon uchaf”
- Diwedd -
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
| Boomerang Plus plc | Via Redleaf Communications |
| Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr | |
| Mark Fenwick, Cyfarwyddwr Cyllid | |
| Redleaf Communications | 020 7566 6731 |
| Anna Dunkin/ Lucy Salaman | boomerang@redleafpr.com |
| Altium Capital | |
| Tim Richardson/ Melanie Szalkiewicz | 020 7484 4040 |
| Evolution Securities | |
| Adam Lloyd | 020 7071 4317 |
Boomerang Plus
- Mae gan y Grŵp, a sefydlwyd yn 1994, brofiad eang mewn cynhyrchu cynnwys mewn amrywiaeth o genres, yn cynnwys rhaglenni ieuenctid, ffordd o fyw, cerddoriaeth, adloniant. Rhaglenni plant, chwaraeon eithafol a drama.
- Mae’r farchnad i gwmnïau cynhyrchu annibynnol yn y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau wedi tyfu yn dilyn gosod cwota gan y rheoleiddydd Ofcom yn mynnu fod rhwng 10% a 50%, yn dibynnu pa ddarlledwr, o raglenni cymwys yn cael eu cynhyrchu y tu allan i’r M25
- Mae Boomerang yn cael ei gyfrif ymhlith y pum prif gwmni cynhyrchu annibynnol, yn ôl enillion, y Cenhedloedd a’r rhanbarthau yn ôl arolwg Broadcast Survey (Nations and Regions) 2009
- Strategaeth y Bwrdd yw cael twf organig cryf dan ddylanwad busnes y cwsmeriaid presennol a chyplysu hyn gyda chaffaeliadau strategol, gyda’r bwriad o ddod yn gyflenwr mawr i rwydweithiau’r DU sydd am fodloni’r cwotâu o’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau.
View the full PDF version of Interim Results (130KB)
| This page includes links to documents in Portable Document File (PDF) format. To read PDF documents you may need to download the free Adobe Acrobat Reader. For PDF accessibility help, visit Access Adobe. These links will open in a new browser window. |

