Datganiadau'r Wasg
Boomerang Plus ccc Canlyniadau Rhagarweiniol 2010
26 Tachwedd 2010
Heddiw, mae Boomerang Plus ccc (AIM: BOOM.L), grŵp cynhyrchu rhaglenni teledu annibynnol, aml-genre, fertigol-integredig a phroffidiol, sy'n gweithredu o fewn y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau, yn cyhoeddi ei ganlyniadau rhagarweiniol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mai 2010.
Sefyllfa Ariannol
- Refeniw o £21.41 miliwn (2009: £19.76 miliwn).
- Elw gweithredol o £0.61 miliwn (2009: £1.14 miliwn).
- Elw gweithredol addasedig* o £0.78 miliwn (2009: £1.25 miliwn).
- Elw cyn treth o £0.54 miliwn (2009: £1.09 miliwn).
- Mantolen gadarn gydag arian a chyfwerthoedd arian ar ddiwedd y flwyddyn o £3.07 miliwn (2009: £3.03 miliwn).
Gweithrediadau
- Sicrhau cynnydd da wrth arallgyfeirio gweithrediadau'r Grŵp.
- Caffael Indus Films Limited ym mis Hydref 2009.
- Twf parhaus naturiol Rhaglenni sy'n cael eu Cyllido gan Hysbysebwyr (“AFP”) a buddsoddi yng ngŵyl gerddoriaeth a chwaraeon gaeaf “Freeze”, a chaffael “Method”, y cyhoeddwr amlgyfrwng sy’n arbenigo mewn eirafyrddio, ym mis Medi 2009.
- Sicrhau cytundeb tair blynedd sy'n werth £4.0 miliwn (£1.3 miliwn y flwyddyn) er mwyn cynhyrchu rhaglenni a dolenni ar gyfer Cyw, gwasanaeth S4C ar gyfer plant meithrin, gan gadarnhau ein safle fel un o'r prif gwmnïau cynhyrchu deunydd i blant yn y DU.
- Cynhyrchu gwerth 428 awr o raglenni teledu yn ystod blwyddyn galendr 2009 (2008: 371 awr).
* wedi’i addasu ar gyfer ffioedd proffesiynol mewn perthynas â thrafodaethau corfforaethol aflwyddiannus (2010: £0.07 miliwn, 2009: £0.07 miliwn), darpariaeth ar gyfer amhariad buddsoddiadau (2010: £0.07 miliwn, 2009: £dim), amorteiddiad asedau anniriaethol yn deillio o gaffaeliadau busnes (2010: £0.02 miliwn, 2009: £0.02 miliwn), a thaliadau wedi’u seilio ar gyfrannau (2010: £0.01 miliwn, 2009: £0.02 miliwn).
Gweithgarwch Masnachu Presennol a'r Rhagolygon
- Cronfa ariannol sicr o £50.0 miliwn ar gyfer rhaglenni, gan gynnwys y flwyddyn gyfredol hyd yn hyn.
- Amgylchedd rheoleiddio ffafriol o fewn cwotâu'r Cenhedloedd a'r Rhanbarthau.
- Mantolen gref er mwyn ariannu twf yn y dyfodol.
- Mae’r gweithgarwch masnachu yn ystod y flwyddyn gyfredol yn cyd-fynd â disgwyliadau’r Bwrdd.
Dywedodd Huw Eurig Davies, Prif Swyddog Gweithredol Boomerang Plus:
“Mewn hinsawdd heriol, rydym wedi llwyddo i sicrhau cynnydd da gyda'n strategaeth o arallgyfeirio gweithrediadau'r Grŵp. Mae ychwanegu Indus wedi bod yn gaffaeliad addas a gwych i'r Grŵp; mae wedi ein tywys i genres newydd, gan ehangu ein cronfa gwsmeriaid a gwneud cyfraniad gwerthfawr i'n refeniw ar gyfer y cyfnod. Rydym yn parhau i fwynhau mantolen gref a refeniw amlwg ar gyfer y tymor hir, gan gynnig llwyfan rhagorol ar gyfer y cyfnod nesaf o ran twf y Grŵp.”
- Gorffen -
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
| Boomerang Plus ccc | Trwy Redleaf Communications |
| Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr | |
| Mark Fenwick, Cyfarwyddwr Cyllid | |
| Redleaf Communications | 020 7566 6700 |
| Anna Dunkin/ Rebecca Sanders-Hewett | boomerang@redleafpr.com |
| Altium | |
| Tim Richardson/ Melanie Szalkiewicz | 020 7484 4040 |
Boomerang Plus ccc
- Mae gan Boomerang, a sefydlwyd ym 1994, brofiad helaeth o gynhyrchu cynnwys mewn amrywiaeth o genres, gan gynnwys rhaglenni adloniant, rhaglenni ffeithiol, rhaglenni chwaraeon, rhaglenni cerddoriaeth, dramâu a rhaglenni plant ar gyfer teledu, radio a’r we.
- Mae'r Grŵp yn gweithredu ar draws sbectrwm cyfan gweithgareddau'r diwydiant creadigol, gan gynnwys cynhyrchu cynnwys, gwasanaethau ôl-gynhyrchu, cyfleusterau teledu a rheoli talent.
- Nod Boomerang yw bod y dewis cyntaf i'r darlledwyr Rhwydwaith sy'n chwilio am gwmni cynhyrchu teledu annibynnol i lenwi eu cwotâu Ofcom o'r 'Cenhedloedd a'r Rhanbarthau' (rhaid i ddarlledwyr sicrhau bod rhwng 10% a 50% o'u horiau rhaglenni cymwys yn dod o'r tu allan i ffiniau yr M25).
- Yn ôl Arolwg Darlledu 2010, mae Boomerang ymhlith y pum cwmni cynhyrchu teledu annibynnol mwyaf blaenllaw o'r Cenhedloedd a'r Rhanbarthau, yn ôl refeniw.
- Strategaeth Boomerang yw parhau i gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel ar draws dewis eang o genres a datblygu i fod yn gynhyrchydd blaenllaw AFP a gwasanaethau a chynnwys digidol. Yn ogystal, bydd y Grŵp yn ceisio sicrhau twf naturiol cadarn trwy bwyso ar ei gronfa o gwsmeriaid presennol a gwneud penderfyniadau caffael strategol, gyda'r nod o ddatblygu i fod yn gyflenwr pwysig i rwydweithiau yn y DU sy'n dymuno bodloni eu cwotâu o'r Cenhedloedd a'r Rhanbarthau.
Edrych ar y fersiwn PDF llawn o Canlyniadau Rhagarweiniol 2010 (160 KB)
Mae’r dudalen hon yn cynnwys cysylltiadau mewn fformat PDF. I ddarllen y ddogfen efallai y bydd angen i chwi lwytho Adobe Acrobat Reader yn rhad ac am ddim. Fe agorir y cysylltiadau mewn ffenestr newydd yn y porwr. |

