• Hafan
  • Amdanom ni
  • Ein busnesau
  • Buddsoddwyr
  • Cyfryngau
  • Cysylltu â ni

Datganiadau'r Wasg

Boomerang Plus ccc Canlyniadau Rhagarweiniol 2011

28 Medi 2011

Mae Boomerang Plus plc (AIM: BOOM.L), grŵp buddsoddi cyfryngol proffidiol yn cyhoeddi ei ganlyniadau rhagarweiniol am y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mai 2011.

UCHAFBWYNTIAU ARIANNOL

  • Refeniw i fyny 25.8% i £26.93m (2010: £21.41m).
  • Elw gros i fyny 30.2% i £4.55m (2010: £3.50m).
  • EBITDA** cymwysedig i fyny 52.5% i £1.93m (2010: £1.27m).
  • Elw* gweithredol cymwysedig i fyny 50.5% i £1.17m (2010: £0.78m).
  • Elw cyn treth i fyny 90.7% i £1.02m (2010: £0.54m).
  • EPS* sylfaenol cymwysedig i fyny 20.7% i 6.60p (2010: 5.47p)
  • Arian a chyfwerth arian i lawr i £2.59m (2010: £3.07m) oherwydd y rhaglen buddsoddi cyfalaf.

UCHAFBWYNTIAU GWEITHREDOL

  • Cynnydd parhaol wrth amrywio sylfaen cwsmeriaid Y Grŵp.
  • Integreiddiad llwyddiannus Indus Films Limited, a gafaeliwyd yn Hydref 2009.
  • Twf organig rhaglenni a ariannwyd gan hysbysebwyr (“AFP”).
  • Ennill dau gytundeb gan Disney yn ystod y flwyddyn.
  • 659 awr o raglenni teledu yn ystod blwyddyn galendr 2010 (2009: 428).

RHAGOLYGON

  • Caffaeliad Oxford Scientific Films ar ôl diwedd y flwyddyn.
  • Caffaeliad Asiantaeth Talent Harlequin mewn cyd-fenter gyda Bryn Terfel.
  • Ymrwymiad cynyddol i, a chyfleoedd o, gomisiynu i'r Cenhedloedd gan ddarlledwyr y Rhwydweithiau.
  • Mantolen gref i gynnal twf yn y dyfodol gydag asedion net o £9.5m a dim dyled banc net.
  • Dechrau cryf i'r masnachu yn y flwyddyn ariannol 2012.

Dywedodd Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr Boomerang Plus:
“Mae twf organig y rhwydweithiau, ein caffaeliadau diweddar a thwf mewn AFP wedi cyfrannu at ymestyn ac amrywio seiliau cwsmeriaid y Grŵp ac ymestyn seiliau'r cynnyrch deallusol. Bydd hyn yn parhau i yrru twf pellach a rhoi cyfle i ni gynyddu maint yr elw gros. Gwnaeth y Grŵp ddechrau da i'r flwyddyn ariannol gyfredol ac mi fyddwn yn parhau i chwilio am gaffaeliadau newydd fydd yn ychwanegu gwerth i'n cyfranddalwyr mewn marchnad gyfryngol hynod o gyfnewidiol.”

* wedi eu cymhwyso ar gyfer ffioedd proffesiynol mewn perthynas â deliadau corfforaethol (2011 - £0.02m, 2010 - £0.07m), darpariaeth ar gyfer amhariad buddsoddiadau (2011 - £nil, 2010 - £0.07m), amorteiddio asedion anniriaethol sy'n codi ar gaffaeliad busnesau (2011 - £0.02m, 2010 - £0.02m), a thaliadau ar sail cyfranddaliadau (2011 - £nil , 2010 - £0.01m).

Cysylltiadau:

Boomerang Plus plc Tel : 029 2055 0550
Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr
Mark Fenwick, Cyfarwyddwr Cyllid
finnCap Limited
Geoff Nash/ Charlotte Stranner
Simon Starr/ Victoria Bates (brocer) Tel: 020 7600 1658
Walbrook PR Ltd Tel: 020 7933 8780
Paul McManus paul.mcmanus@walbrookpr.com
Paul Cornelius paul.cornelius@walbrookpr.com

Am Boomerang Plus plc (www.boomerang.co.uk)

Mae gan Boomerang Plus plc fuddsoddiadau strategol mewn nifer o fusnesau yn cynnwys cwmnïau cynhyrchu Alfresco, Apollo, Boomerang, Bulb, Fflic, Indus, ac Oxford Scientific Films; cwmnïau adnoddau Gorilla a Zoom; cyhoeddwr aml-gyfryngol Boom Extreme Publishing; cwmnïau talent Harlequin a Boom Talent; cwmni digwyddiadau Big Freeze Limited, a busnes cynhyrchu corfforaethol ac addysgol Media4.

Strategaeth Boomerang Plus yw parhau i gaffael a buddsoddi a datblygu mewn cwmnïau cyfryngol sy'n ategu busnesau presennol y Grŵp gan sicrhau cynnydd organig yr un pryd.

Edrych ar y fersiwn PDF llawn o Canlyniadau Rhagarweiniol 2011 (302 KB)

Adobe Acrobat Reader icon and link to Adobe website (opens in a new window)

Mae’r dudalen hon yn cynnwys cysylltiadau mewn fformat PDF. I ddarllen y ddogfen efallai y bydd angen i chwi lwytho Adobe Acrobat Reader yn rhad ac am ddim. Fe agorir y cysylltiadau mewn ffenestr newydd yn y porwr.

^ Nol i'r Top